Gwneuthurwyr Baneri
Mae gwneuthurwyr baneri yn disgyn i dri chategori; Proffesiynol, Lled-Broffesiynol a Gwneud Cartref.
- Proffesiynol
Caiff y baneri mawr, sydd wedi eu peintio, ac sy'n aml yn gymhleth, eu cynhyrchu fel arfer gan gwmni proffesiynol gwneud baneri. Byddai baneri Cyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) Ardal De Cymru yn cael eu gwneud gan y Gwasanaeth Celfyddydau Cydweithredol yng Nghaerlŷr yn yr 1950au. Gwnaeth faner Cyfrinfa Cambrian, er enghraifft, yn 1958 am gost o £97.
Roedd baneri'r Gwasanaeth Celfyddydau Cydweithredol yn cael eu gwneud o dwil trwm gyda gorffeniad peiriant i wneud iddo edrych fel sidan. Byddai'r baneri'n cael eu hargraffu â sgrin sidan. Roedd baneri hefyd yn cael eu gwneud o liain ac yn cael eu peintio. Roedd hyn yn ddewis rhatach ac yn caniatáu i'r faner gael ei hailbeintio'n aml â darluniau neu eiriau amserol.
Gwnaeth y gwneuthurwyr baneri Turtle & Pearce o Lundain faner Cyfrinfa Oakdale Navigation yn 1961. Costiodd £150.
Baner Cyfrinfa Oakdale Navigation