Gwneuthwrwyr Baneri Lled Broffesiynol a Waith Cartref

  • Lled broffesiynol

Mae rhai o faneri Cyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn enghreifftiau da o faneri lled broffesiynol, lle byddai'r faner ei hun yn cael ei gwneud efallai gan wraig aelod o'r pwyllgor a'r ddelwedd a'r slogan yn cael eu hychwanegu at y faner gan ysgrifennwr arwyddion proffesiynol.

 

  • O waith cartref

Mae'r baneri hyn yn gyffredin iawn.  Nid yw sgiliau artistig bob amser yn angenrheidiol gan fod sloganau wedi eu peintio neu eu gwnïo ar sgwâr o ddefnydd yn faner syml, ond hynod effeithiol - a gall unrhyw un eu gwneud.  Mae llawer o faneri ymgyrchoedd yn perthyn i'r categori hwn lle cân nhw eu defnyddio am ymgyrch fer lle nad oes angen prynu baner.

 

Mary Crofton, Secretary Newport Miners' Support Group, repairing the banner on her kitchen table