Diogelu'r Baneri Ar Gyfer Yfory

Gan fod pob baner yn wahanol, mae gwaith cadwraeth yn araf iawn bob amser, a chan ei fod yn waith mor arbenigol, gall fod yn ddrud iawn.  Ar gyfartaledd, mae'n costio £10,000 i ddiogelu baner.  Mae hyn am fod y faner efallai wedi ei gwneud o sawl ffabrig gwahanol, weithiau sidan a lliain er enghraifft.  Gall fod wedi ei pheintio gan ddefnyddio gwahanol fathau o baent.  Mae hyn yn rhoi nifer o anawsterau i'r gwarchodwr. 

 

Mae angen gwarchod arwynebau sydd wedi'u peintio fel yn achos lluniau, ond mae angen gwarchod o fath gwahanol, ond yr un mor arbenigol, ar ffabrig.Mae angen gofalu am bob baner, yn hen a newydd, yn ofalus i sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol.  Yn ddelfrydol dylai baneri gael eu storio'n wastad.  Serch hynny, caiff baneri mawr eu storio fel arfer wedi eu rholio ar diwbiau cardfwrdd mawr diasid, gyda phapur sidan diasid rhwng yr haenau ac wedi'u lapio mewn haen amddiffynnol o galico yn y pen draw.  Yna caiff y baneri eu stori ar raciau sydd wedi eu gwneud yn arbennig.