Agor Y Baneri

Daeth baneri â syniadau, credoau a lliw i ralïau, gorymdeithiau a gwrthdystiadau, gorymdeithiau capeli, paredau, cyfarfodydd, picniciau ac angladdau ledled de Cymru am fwy na 150 o flynyddoedd.  Serch hynny, nid baneri glowyr oedd y rhain ar y cyfan.Mae'r rhan fwyaf o faneri'r glowyr yn perthyn i'r cyfnod wedi cychwyn Gala Glowyr De Cymru yn 1954.Roedd rhai eithriadau.  Cafodd undebaeth lafur ei sefydlu ym Maes Glo De Cymru yn yr 1870au, gyda sefydlu Cymdeithas Gyfun y Glowyr a nifer o Undebau Rhanbarth.

 

Mae baneri'r glowyr o'r cyfnod hwn yn cynnwys:

1872 - baner 'Glowyr Unedig Cwm Rhodda' a ddefnyddiwyd mewn gwrthdystiad

1873 - baner 'Cymdeithas Glowyr Cwm Ogwr'

1874 - baner sidan wen, fawr gyda delweddau o arfau glowyr arni, a gludwyd mewn gwrthdystiad ym Mhont-y-pŵl

1888 - baner Cymdeithas Trimwyr Glo Caerdydd, Penarth a'r Barri

Ni chafwyd llawer o faneri ar ôl sefydlu Ffederasiwn Glowyr De Cymru (y Fed) yn 1898.  Yn lle hynny, roedd gan y Fed arwydd a ddefnyddid ar gardiau aelodaeth a chyhoeddiadau, ond nid ymddangosodd erioed ar faner.