'Gwawrio Oes Newydd'

'Gwawrio Oes Newydd’ yw'r slogan ar faner Caban Rhisga, a wnaed ychydig cyn i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947.   Y ddelwedd ar y faner yw'r haul yn codi ac mae'n cynrychioli gobaith ar gyfer y dyfodol.

Gwyddys fod o leiaf 50 o faneri glowyr wedi bodoli yn Ne Cymru a chedwir llawer ohonynt yn Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.  Dros y blynyddoedd, defnyddiwyd y baneri mewn protestiadau, gorymdeithiau ac arddangosiadau, gan gynnwys yn ystod streiciau'r glowyr ym 1972, 1974 a 1984-85.  

Mae'r baneri'n cynnig ffynhonnell gyfoethog o hanes cymdeithasol a mewnwelediad unigryw a phwerus i hanes a thraddodiadau pobl Cymru.   

 

Dan arweiniad: Siân Williams (Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd, Llyfrgell Glowyr De Cymru)

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r gyfres hybiau a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe.