Baneri Glowyr De Cymru

'Baneri yw cof mudiad.'  Gwyn Alf Williams, Hanesydd.

Mae'r lliwiau, y delweddau a'r ffabrigau a ddefnyddir i greu'r baneri'n rhoi golwg arbennig a phwerus ar ein hanes a'n traddodiad cyffredin.   

Mae'r arddangosfa hon yn archwilio hanes baneri glowyr ym maes glo De Cymru, yn enwedig y baneri sydd yn rhan o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, Prifysgol Cymru Abertawe. 

Mae'r baneri, yn unigol ac ar y cyd, yn datgelu hanes cymdeithasol cyfoethog Maes Glo De Cymru.  Nhw yw ein cof cyffredin.  Maen nhw'n rhoi hanes ymdrechion a delfrydau ein rhieni a'n rhieni-cu yn y gorffennol ac yn cyfleu ein dyheadau am y dyfodol.