Safwn Yn Unol
Gwnaed baner Cyfrinfa'r Glofeydd Naval yn 1898. Cafodd ei gwneud gan wneuthurwyr Baneri Tutill yn Llundain ac roedd yn gopi o faner Cyfrinfa Hanley o Swydd Stafford. Gyda'i slogan milwriaethus yn amlwg, 'Llafur yw ffynhonnell pob cyfoeth', cafodd ei dangos yng Ngorymdaith Eglwys y Gweithwyr Rheilffordd yn 1913. Diflannodd y faner yn 1957 pan gaewyd y lofa.
Ni chafwyd llawer o faneri yn ystod Cloi-allan y Glowyr yn 1926. Mae un o'r ychydig a wnaed yn cynnwys baner ddoniol ar gyfer band jazz Pont-y-pridd, Cerddorion Perffaith Glowyr Graig.
Daeth D.L. Davies, Ysgrifennydd Cyfrinfa Maerdy, â baner yn ôl o'r Undeb Sofietaidd yn 1926. Cafodd hon ei chyflwyno i lowyr Prydain a'u gwragedd oddi wrth weithwragedd Krasnaya Presna, Moscow, a defnyddiwyd hi ar adegau arbennig yn unig, a'i lapio am eirch yn angladdau Comiwnyddion.
Cynhyrchwyd nifer o faneri yn ystod y Gorymdeithiau Newyn a adawodd Dde Cymru rhwng 1927 a 1936 i brotestio yn erbyn yr amodau a oedd yn gwaethygu yn y diwydiant glo. Roedd yr heddlu mor bryderus am y gorymdeithwyr, nes y cafodd y sloganau ar y baneri eu riportio yn aml.